Astudiaeth Achos: Colette Hughes

adminAstudiaeth Achos, Workshops & Events Case Study

Pan oedd Colette Hughes yn penderfynu ar bwnc ar gyfer un o’i hasesiadau terfynol yn rhan o’i hyfforddiant athrawon, cafodd ei hysbrydoli gan weithdy Technocamps yr oedd tîm Bangor wedi’i gyflwyno i’w dosbarth wythnos ynghynt. 

Pan oedd Colette Hughes yn penderfynu ar bwnc ar gyfer un o’i hasesiadau terfynol yn rhan o’i hyfforddiant athrawon, cafodd ei hysbrydoli gan weithdy Technocamps yr oedd tîm Bangor wedi’i gyflwyno i’w dosbarth wythnos ynghynt.

Dewisodd ddefnyddio’r gweithdy yn sail ar gyfer gwers ddilynol a oedd yn canolbwyntio ar greu algorithmau gan ddefnyddio Robotiaid Edison V2.0. Byddai’r wers yn arwain at uned waith newydd ar ‘Golau’, felly cafodd y gwaith gyda’r robotiaid ei roi yn y cyd-destun priodol ar y dechrau. Yn ei gwers, aeth Colette ati i wahaniaethu’r deilliannau dysgu, gan ddyrannu tair lefel o waith i’r dysgwyr, gyda gwahanol lefelau o sgiliau a her yn ofynnol ar gyfer pob tasg a osodwyd. Trwy gydol y sesiwn, defnyddiodd Colette sesiynau llawn achlysurol i holi disgyblion am eu cynnydd ac i gadw eu ffocws ar y dasg. Roedd yr holi hefyd wedi’i gynllunio mewn modd clyfar i ysgogi’r dysgwyr mwyaf galluog i ganfod atebion lefel uwch ar gyfer unrhyw broblemau y byddent yn eu hwynebu ar hyd y ffordd.

Roedd y wers yn ysgogol dros ben, ac roedd y disgyblion yn llawn cymhelliant, gan barhau â’r dasg trwy gydol y sesiwn. Yn sicr, gwnaeth Colette argraff dda ar ei mentor, a honnodd nad oedd erioed wedi gweld gwers yn bodloni cynifer o safonau addysgu ar unwaith! Enghraifft wych o’r modd y gellir ymgorffori Cyfrifiadureg yng nghwricwlwm yr Ysgol Gynradd mewn cyd-destun trawsgwricwlaidd.

“Aeth y dysgwyr i’r afael â’r gweithgaredd codio yn hyderus yn dilyn gweithdy blaenorol. Roedd y berthynas gadarnhaol a’r her a ddarparwyd gan Colette yn hyrwyddo safonau cyflawniad uchel – aeth y dysgwyr ati gyda gwytnwch ac ymdrech barhaus i gyflawni eu nodau. Roedd y wers hon yn bodloni cynifer o ddisgrifyddion, ac mae Colette yn haeddu cael ei chanmol yn fawr.”