Cyflwyniad i Dechnoleg Digidol: DPP i Athrawon Uwchradd

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Ar Ddydd Mawrth 20fed Ebrill, rydym yn cynnal digwyddiad DPP ar gyfer athrawon ysgol uwchradd i gefnogi gyda'r TGAU Technoleg Digidol newydd.

Bydd y sesiwn fer hon yn cyflwyno athrawon i'r gefnogaeth y mae Technocamps yn ei chynnig sy'n canolbwyntio ar gyflawni'r cymhwyster TGAU Technoleg Digidol newydd. Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn amlinellu manylion ar gyfer sesiynau DPP dysgu cyfunol sy'n cael eu cynnal trwy dymor yr haf, gan ganolbwyntio ar bynciau datblygu gemau yn Gamemaker, animeiddio yn Adobe Animate a datblygu'r we gan ddefnyddio Adobe Dreamweaver. Byddwn hefyd yn amlinellu ein cefnogaeth lawn i'r cymhwyster sy'n dechrau ym mis Medi.

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyd-destun y cymhwyster,amlinelliad o'r cynnig DPP cychwynnol ar gyfer tymor yr haf, amlinelliad gefnogaeth lawn gan ddechrau ym mis Medi 2021 a sesiwn Holi ac Ateb.