Pobl ifanc yng Nghaerdydd yn dysgu Cyfrifiadureg

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Gweithion ni mewn partneriaeth â thîm Digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn ddiweddar i gynnig rhaglen gyfrifiadureg pedwar diwrnod i bobl ifanc 11-16 oed i ddysgu i godio a rhaglennu.

Dros y diwrnodau, bu staff o'n canolfan Prifysgol Caerdydd yn darparu sesiynau ar-lein i'r bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan.

Diolch i Cardiff Commitment, ymunodd cynrychiolwyr o Microsoft ac Admiral â sesiwn i drafod codio a rhaglennu yn y gweithle a'r cyfleoedd y gall pobl ifanc fanteisio arnynt gyda'r sgiliau a'r wybodaeth hynny.

Adborth gan gyfranogwyr:
"Fe wnes i fwynhau'r gwahanol gwefannau y cawsom godio arnyn nhw a gallu gwneud codau gwahanol."
"Dysgais i bethau newydd a chwrddais i â phobl newydd tra'n cael hwyl."
"Diolch am drefnu’r sesiynau yma. Mae wedi bod yn ddefnydd gwych o amser fy mechgyn ac mae fy mab yn sicr ei fod eisiau mynd ymhellach gyda hyn yn y dyfodol."

O ganlyniad i'r prosiect hwn, rydyn ni'n gweithio gyda thîm Digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a grŵp o bobl ifanc leol i ddatblygu gofod digidol gyda llawer o gyfleoedd i bobl rhwng 11-16 oed. Manylion i ddod!