Partneriaeth Rhwng Technocamps a Menter Iaith

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Bydd Technocamps nawr yn gweithio gyda Menter Iaith Abertawe i hyrwyddo gweithgareddau STEM cyfrwng Cymraeg yn Abertawe.

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn gweithio gyda Menter Iaith Abertawe i gynnig gweithdai a digwyddiadau i ddisgyblion sy'n siarad Cymraeg yn Abertawe. Bydd hyn yn ein caniatau i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion ac athrawon ddysgu am Gyfrifiadureg a phynciau STEM eraill yn yr iaith y maent yn fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio, a’r iaith y maent yn debygol o gwblhau asesiadau gan ei defnyddio. Bydd hefyd yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach yn Ne Orllewin Cymru i annog defnyddio'r Gymraeg mewn ysgolion a'r tu hwnt iddynt.

Sefydlwyd Menter Iaith Abertawe yn 2001, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn Ninas a Sir Abertawe. Gweithion ni'n agos â'r tîm yn ystod ein Academi STEM 2021 i hyrwyddo gweithdai STEM cynhywysol i ddisgyblion yn Abertawe, a gan ddilyn llwyddiant y partneriaeth, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y partneriaeth i ddod.

Os hoffech chi fwcio gweithdy STEM Cymraeg ar gyfer eich dosbarth, cysylltwch ar info@technocamps.com.