Digwyddiad STEM Rhad ac am Ddim i Ferched ym Merthyr Tudful

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

9.30am-2.30pm | Dydd Gwener 18fed Mawrth

Un o'n nodau yn Technocamps yw annog merched i ystyried y gyrfaoedd STEM sydd ar gael iddynt a gwneud ein rhan i gau'r bwlch rhwng y rhywiau yn y diwydiannau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau rhad ac am ddim i ferched yn unig i gefnogi'r achos hwn ac yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i ymgysylltu â disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd trwy ein rhaglen GiST.

Yn y Gwanwyn, rydym yn cynnal diwrnod o weithdai hwylus i ferched er mwyn eu hymgysylltu ac ysbrydoli i ystyried pynciau STEM ar lefel TGAU. Mae 60 lle ar gael (15 o bob ysgol) am ddiwrnod o weithdai yng Ngholeg Merthyr.

Gweithdai:

1) Gweithdy Hyfforddiant CSI gyda Choleg Merthyr

2) Steganograffeg Digidol gyda Technocamps

3) Fforensig Digidol a Seiber Ddiogelwch gyda NDEC

Gofynnwn fod disgyblion yn cael eu dethol ar sail eu hangen am ysbrydiolaeth i astudio pynciau STEM fel opsiynau TGAU.

Technocamps core logo in yellow and grey with no blurb