Jam Copr Prifysgol Abertawe 2022

adminCystadleuaeth, Digwyddiad, Newyddion a Digwyddiadau

CYSTADLEUAETH AR GAU

Yn galw ar y chweched dosbarth a cholegau! Mae Prifysgol Abertawe yn gwahodd myfyrwyr i gymryd rhan mewn Jam Copr i greu gemau eu hunain i ddylunio Gwaith Copr Hafod Morfa.

Mae Prifysgol Abertawe'n trefnu Jam Copr yn 2021 i rannu'r modelau 3 dimensiwn rydym wedi'u creu o safle Gwaith Copr yr Hafod Morfa. Bydd y modelau hyn ar gael i ysgolion sy'n cymryd rhan ar ffurf ffeiliau Unity 3D Asset. Bydd croeso i fyfyrwyr greu eu gêm eu hunain gan ddefnyddio'r modelau a'r asedau digidol (ffotograffau, mapiau, hanesion llafar). Rhaid cwblhau hwn o fewn amserlen y Jam a chaiff yr holl geisiadau eu beirniadu. Caiff y tîm buddugoliaethus ei wahodd i Brifysgol Abertawe (gan ddibynnu ar gyfyngiadau cymdeithasol) a bydd yn derbyn tystysgrif ac yn cael cyfle i ymweld â'n Labordy Rhithrealiti.

Pwy sy'n gymwys?
Mae'r cyfle hwn ar agor i'r holl golegau AB a Chweched Dosbarth yng Nghymru, gan gynnwys myfyrwyr unigol. Gall ddigwydd yn ystod amser addysgu os bydd eu darlithwyr neu eu hathrawon yn cofrestru. Gall pobl gofrestru fel timau neu unigolion.

Pryd y cynhelir hyn?
Cynhelir y Jam Copr drwy gydol mis Hydref a mis Chwefror. Y dyddiad cau i gyflwyno cais fydd dydd Llun 28 Chwefror 2022.

Gwybodaeth Gefndirol
Mae'r Jam wedi'i drefnu gan staff o'r adrannau Hanes, Treftadaeth a’r Clasuron a Chyfrifiadureg. Dros y 3 blynedd diwethaf, rydym wedi comisiynu cyfres o fodelau 3D o safle Gwaith Copr yr Hafod Morfa fel rhan o'r gwaith parhaus i'w adfywio. Mae'r adeiladau sy'n weddill yn cynrychioli mymryn yn unig o ddiwydiant enfawr a adeiladwyd yng Nghwm Tawe isaf yn y 19eg ganrif. Ar ei anterth, cynhyrchodd Abertawe'r rhan fwyaf o gopr y byd, gan fewnforio mwyn copr o ledled y byd: De Affrica, Ciwba, Chile a hyd yn oed Awstralia. Allforwyd cynnyrch copr hefyd ledled y byd. Dechreuodd y gwaith gau wrth i'r galw am gopr leihau ac yn y pendraw stopiodd y gwaith yn gyfan gwbl ym 1981. Cyngor Abertawe sy'n berchen ar y safle nawr ac mae gwaith i adfer yr adeiladau sy'n weddill yn parhau. Swansea Council and restoration work on the remaining buildings is ongoing.

Crynodeb am y Jam Copr i fyfyrwyr
Gan ddefnyddio'r modelau 3D a ddarparwyd, crëwch eich gêm wreiddiol eich hun. Er nad oes angen i chi greu byd hanesyddol, hoffem i chi ystyried y themâu canlynol:

Gorffennol, Presennol a'r Dyfodol
Cyn y Chwyldro Diwydiannol, byddai'r safle wedi cynnwys caeau gwyrdd, gyda thai bach i ffermwyr a'u hanifeiliaid.Yn ystod anterth y cyfnod diwydiannol, bu mwg yn llifo'n donnau i'r wybren o 171 o simneiau ar hyd afon Tawe yng Nghwm Tawe isaf. Nawr, dim ond 2 simnai sy’n weddill ac mae ychydig o’r adeiladau’n cael eu hadfer. Mae datblygiadau pellach i'r safle yn yr arfaeth gan gynnwys tai a mentrau.

Cymru Ddiwydiannol
Roedd Cymru'n un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i arwain y Chwyldro Diwydiannol. Er bod cotwm a chynnyrch tecstilau'n ysgogi'r cyfnod diwydiannol yn Lloegr, yng Nghymru, roedd y stori am lo yn hytrach na'r ffatrïoedd, ac roedd llawer o lo yng Nghymru. Roedd glo yn ffynhonnell pŵer arloesol a oedd yn galluogi cynnydd enfawr wrth brosesu deunyddiau crai. Yn y Gwaith Copr, defnyddiwyd y glo i bweru ffyrnau enfawr o'r enw ffwrneisiau i wneud copr.Roedd gan Abertawe borthladd prysur eisoes, a oedd wedi'i gysylltu ledled y byd. Gwaeth y dociau, y camlesi a'r rheilffyrdd hi'n hawdd iawn i gludo glo a chopr ar hyd afon Tawe

Cymru wedi'r oes ddiwydiannol
Pan na fydd safle diwydiannol yn cael ei ddefnyddio at ddibenion diwydiannol mwyach, gall ddirywio yn aml a chael ei adael yn segur. Mae hyn yn wir am safle’r Gwaith Copr. Am gyfnod o 20-30 mlynedd, bu'n segur - fel safle ar yr 'ymylon'. Roedd y pridd a'r afon hefyd yn wenwynig iawn nes y gwnaethpwyd gwaith i'w glanhau. Bellach, mae'r afon yn lân ac mae'n cael ei defnyddio at ddibenion hamdden amrywiol.

Efallai byddwch am ail-greu prosesau ffatri, glanhau ac adfer yr adeiladau, ail-ddychmygu'r safle fel rhywle i wneud rhywbeth arall neu ail-greu'r safle ar ei anterth a cheisio ei weithredu mor effeithiol â gweithwyr copr y gorffennol