Llwyddiant Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Building on the Legacy of ITWales, we held our annual International Women’s Day Celebration event on Tuesday 8 March 2022.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu llwyddiannau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Yn flynyddol, cynhelir miloedd o ddigwyddiadau ledled y byd i ysbrydoli menywod a dathlu cyflawniadau. Mae gwe fyd-eang o weithgarwch lleol cyfoethog ac amrywiol yn cysylltu menywod o bob rhan o’r byd gan gynnwys ralïau gwleidyddol, cynadleddau busnes, gweithgareddau’r llywodraeth a digwyddiadau rhwydweithio.

Rydym yn falch ein bod wedi cynnal digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, gan groesawu dros 150 o westeion i’r dathliad. Mae'r noson wedi dod yn nodwedd reolaidd ar galendr cymdeithasol Cymru, gyda gwesteion yn teithio o bob rhan o'r wlad i ddod.

Eleni oedd 22ain penblwydd ein digwyddiad sy'n canolbwyntio ar fenywod mewn STEM. Thema eleni oedd Ar Gyfer y Merchedac roedd yn arddangos y gefnogaeth sydd ar gael i ferched ifanc sy'n gobeithio gweithio yn y sectorau STEM a'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud i annog y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, gan ganolbwyntio ar ein rhaglen GiST (Merched mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg). Kev Johns MBE wnaeth gyflwyno'r noswaith ac roedd siaradwyr yn cynnwys:
Jeremy Miles AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a'r Iaith Gymraeg
– Rocio Cifuentes, Comisynydd newydd Plant Cymru
Y Swyddog Eiddo Deallusol (IPO)
Coleg Penybont
Prince’s Trust
EESW
STEM Gogledd
Merlin Warner-Huish, Astudiaeth Achos Technocamps

I ddechrau'r noswaith, clywon ni gan Jeremy Miles AS, a wnaeth drafod pwysigrwydd defnyddio addysg i fynd i'r afael ag anghyfiawnderau gender yn y gweithle.

Bydd Rocio Cifuentes yn dechrau ei rol newydd fel Comisiynydd newydd Plant Cymru ym mis Ebrill. Yn ei chyflwyniad, trafododd hi yr holl bethau cyffrous mae'n bwriadu eu gwneud wrth ddechrau.

Amlygwyd STEM Gogledd y pwysigrwydd o ddysgu disgyblion i ddefnyddio eu sgiliau i gyflawni eu potensial.

Trafododd EESW y gwaith hyfryd y maen nhw'n ei wneud ledled Cymru i annog disgyblion i weithio mewn Peirianneg.

Yna, siaradodd y Swyddfa Eiddo Deallusol am bopeth maent yn ei wneud yn fewnol ac yn allanol i annog merched mewn i dechnoleg.

Rhoddodd gyflwyniad Coleg Penybont wers i ni o ran sicrhau bod ein hadeiladau a’n mannau gwaith wedi’u dylunio i wneud i fenywod deimlo’n gyfforddus a'u bod yn cael eu cydnabod.

Nesaf oedd Ymddiriedolaeth y Tywysog, sy’n gwneud eu rhan i gael gwared ar y rhwystrau y mae menywod ifanc yn eu hwynebu yn y diwydiannau STEM a Busnes.

Gorffennodd y noson gyda sgwrs ysbrydoledig gan Merlin Warner-Huish, sydd wedi bod yn mynychu gweithdai Technocamps ers nifer o flynyddoedd. Ysbrydolodd y gweithdai Merlin i astudio Cyfrifiadureg ar gyfer Lefel A ac mae'n gobeithio astudio Cyfrifiadureg yn y Brifysgol y flwyddyn nesaf.
"Hoffwn i feddwl fy mod i'n stori lwyddiant Technocamps. Rwy'n lwcus iawn fy mod i wedi gallu cael mynediad at eu hadnoddau a mentora rhad ac am ddim."

Hoffem ddiolch i'n holl bartneriaid a siaradwyr arbennig am lwyddiant y digwyddiad hwn. Ni fydd y digwyddiad wedi gallu digwydd heb gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

View full picture gallery here: https://flic.kr/s/aHBqjzF9x4