6 ffordd i gymryd rhan yn Niwrnod y Byd Eang

adminBlog

Bob blwyddyn ar Ebrill 22, mae pobl o amgylch y byd yn dathlu Diwrnod Byd Eang i godi ymwybyddiaeth am lygredd ac effeithiau cynhesu byd eang, yn ogystal â rhannu syniadau ar sut i fyw'n fwy cynaliadwy. Mae datblygiadau technolegol wedi cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd ond maent hefyd yn darparu datrysiadau clyfar ar sut i leihau ein heffaith ar y blaned. Dyma 6 ffordd i ti gymryd rhan mewn Diwrnod Byd Eang eleni:

  1. Treulia amser mewn natur
    Rho dy ffôn neu dabled i lawr am sbel a joia'r tu allan! Darllena yn yr ardd, cer am dro neu helpa gyda'r garddio.
  2. Joia pryd o fwyd heb gig
    Mwynha yn y gegin drwy greu pryd o fwyd wedi'i wneud o blanhigion. Beth am tsili ffa, tro-ffrio neu ffa ar dost?
  3. Defnyddia botel ailddefnyddiadwy
    Defnyddia dy botel metal Technocamps neu unrhyw fotel ailddefnyddiadwy arall ar gyfer dy ddŵr i leihau dy ddefnyddio o blastig un-ddefnydd. Mae cael potel pert hefyd yn helpu wrth yfed mwy o ddŵr...
  4. Cyfrifa dy Ôl-droed Carbon
    Bydd cyfrifiannell ôl-droed carbon WWF yn dangos pa effaith rwyt ti'n ei gael ar y blaned a sut i'w lleihau
  5. Reidia dy feic
    Go for a bike ride around your neighbourhood or even cycle to school to enjoy the wonderful sun!
  6. Mwynha ein pecyn gweithgaredd Tanio'r Dyfodol .
    Bydd ein pecyn gweithgaredd rhad ac am ddim yn dy helpu i ddysgu sut i efelychu'r ymatebion y tu ôl i'r tanwyddau mwy gwyrdd a byddwn yn eu defnyddio yn y dyfodol agos.