Gweithio gyda Menter Iaith i gefnogi Addysg STEM iaith Gymraeg

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae partneriaeth Technocamps gyda Menter Iaith wedi parhau i dyfu, gan sicrhau ein bod ni'n gallu hyrwyddo gweithgareddau STEM iaith Gymraeg yng Nghymru.

Ers 2021, rydym wedi bod yn gweithio gyda phrosiectau Menter Iaith lleol, gan gynnwys Menter Iaith Abertawe, Menter Iaith RCT a Menter Iaith Caerdydd i gynnig gweithdai a digwyddiadau i ddisgyblion sy'n siarad Cymraeg. Mae hyn wedi ein caniatau i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion ac athrawon ddysgu am Gyfrifiadureg a phynciau STEM eraill yn yr iaith y maent yn fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio, a’r iaith y maent yn debygol o gwblhau asesiadau gan ei defnyddio. Bydd hefyd yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach i annog defnyddio'r Gymraeg mewn ysgolion a'r tu hwnt iddynt.

Mudiad Cenedlaethol yw Mentrau Iaith Cymru (MIC) sy’n cefnogi rhwydwaith o 22 o Fentrau Iaith. Mae Mentrau Iaith yn datblygu prosiectau cenedlaethol a rhanbarthol gyda'r bwriad o hyrwyddo ac ehangu defnydd yr iaith Gymraeg yng Nghymru.

Gweithion ni'n agos â Menter Iaith Abertawe yn ystod ein Academi STEM 2021 i hyrwyddo gweithdai STEM cynhwysol i ddisgyblion yng Nghymru a gyda Menter Iaith RCT ar ein gweithgareddau Parti Ponty yn 2022. Mae Menter Iaith Caerdydd hefyd yn cefnogi ein Clybiau Codio yng Nghaerdydd i bobl ifanc sy'n awyddus i wella eu sgiliau rhaglenni tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Os hoffech chi fwcio gweithdy STEM Cymraeg ar gyfer eich dosbarth, cysylltwch ar info@technocamps.com.