Gweminar Gyrfaoedd STEM LGBTQ+ cyntaf i Technocamps

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023, cynhalion ni ein gweminar Gyrfaoedd STEM LGBTQ+ cyntaf, a gyflwynwyd gan Laura Roberts, Cydlynydd Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru. 

Gyda thri chyflwynwr o gymuned STEM LGBTQ+ a Mark Etheridge, Curadur Hanes LGBTQ+ o Amgueddfa Cymru, roedd y sgwrs yn ymdrin â gwahanol feysydd ymchwil cemeg, bioleg, ffiseg a chyfrifiadura, yn ogystal â’u profiadau fel aelodau LGBTQ+ o’r gymuned STEM mewn prifysgolion ar draws y DU.

Ein gwestai cyntaf oedd Lara Lalemi – ei rhagenwau yw hi/ei, ac mae hi'n nodi ei bod hi'n gwiar. Lara yw Prid Swyddog Gweithredol Creative Tuition Collective ac mae hi hefyd yn fyfyriwr PhD Cemeg Aerosol ym Mhrifysgol Bryste. Mae Lara yn darparu gwasanaeth dysgu STEM cynhwysol a hygyrch am ddim, cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr a gweithdai dadgoloneiddio STEM. Roedd brwdfrydedd Lara dros fod allan ac yn gwiar ac yn falch, a’r llawenydd o gael teulu a chydweithwyr LGBTQ+ cefnogol yn heintus. Roedd hi’n gallu rhannu ei brwdfrydedd dros gefnogi pobl LGBTQ+ a BAME trwy ei gwaith tiwtora yn ogystal â thrwy ei rhwydweithiau STEM yr helpodd ei PhD i’w hwyluso. Roedd hi hefyd yn awyddus i bwysleisio bod rhywioldeb yn hyblyg, ac mae dod i ddeall hyn wedi ei helpu i ddod o hyd i lawenydd a derbyniad.

Mae ein hail gwestai, Aidan Seely – sy'n defnyddio'r rhagenwau ei/ef, ac yn nodi ei fod yn ddyn hoyw – yn Ddarlithydd mewn Ffarmacoleg ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn Gyfarwyddwr ar y Rhaglen Ffarmacoleg Feddygol. Siaradodd am ei lwybr anhraddodiadol drwy'r brifysgol, tynnodd sylw at bwysigrwydd profiad gwaith a rhwydweithio gyda'r bobl iawn i gyrraedd lle rydych chi eisiau bod yn eich gyrfa. Ef yw’r person cyntaf yn ei deulu i fynd i’r brifysgol, a’r aelod agored hoyw cyntaf, roedd yn agored iawn am ei brofiadau a phrofodd i fod yn eiriolwr gwych ar gyfer y gymuned LGBTQ+, gan gyfuno ei arbenigedd academaidd â gwella gwybodaeth gyhoeddus am yr anghydraddoldebau a wynebir gan bobl LGBTQ+. 

Ein trydydd gwestai oedd curadur Hanes LGBTQ+ Amgueddfa Cymru, Mark Etheridge, a wnaeth trafod y casgliad o eitmau sy'n rhan o arddangosda Cymru... Balchder , sydd i'w weld am ddim yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan tan fis Gorffennaf 2023. Dangoswyd eitemau y mae Mark wedi’u casglu o bob rhan o Gymru, gan gynnwys bathodynnau, baneri, tebotau ac arwyddion, i gyd yn gysylltiedig â grwpiau, symudiadau a phrotestiadau LGBTQ+ Cymru. Roedd gan yr eitemau i gyd stori bersonol, sy'n agwedd bwysig o'r casgliad. Gellir gweld yr eitemau ar-lein yma, gan eu bod nhw wedi cael eu digido. 

Ein gwestai olaf oedd Daisy Shearer, sy'n defnyddio'r rhagenwau hi/nhw ac maent yn uniaethu fel anneuaidd a chwiar/panrywiol/demiromantig. Mae Daisy yn gyfathrebwr ac addysgwr gwyddoniaeth brwdfrydig sydd â’r awydd i wneud STEM yn fwy hygyrch a chynhwysol, yn enwedig ar gyfer pobl anabl a niwroamrywiol. Maent newydd orffen astudio ar gyfer PhD mewn ffiseg materol cyddwyso arbrofol yn y Gwyddorau Ffotoneg a Chwantwm ym Mhrifysgol Surrey yn y Sefydliad Technoleg Uwch. Mae gan Daisy frwdfrydedd dros gyfathrebu gwyddoniaeth, ac maen nhw wedi gwneud hyn yn eu swydd yn y Ganolfan Cyfrifiadura Cwantwm Cenedlaethol. Trafododd Daisy yn agored eu brwydrau gydag iechyd meddwl a deall eu hunaniaeth yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol a’r brifysgol, a thynnodd sylw at ba mor fuddiol oedd hi i gael cefnogaeth, gan deulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol. Esbonion nhw esbonio sut roedd cael diagnosis o awtistiaeth wedi eu helpu i wneud synnwyr o pam roedden nhw’n aml yn gweld pethau’n anodd ac yn ddryslyd. Maent bellach yn defnyddio eu profiadau personol a’u brwdfrydedd dros ffiseg i helpu a chefnogi eraill.

Cadwch lygad am episodau newydd o bodlediad Technocamps, Technotalks, oherwydd bod episod LGBTQ+ arbennig ar y gweill!