Astudiaeth achos: Byron Hopkin

adminAstudiaeth Achos, Technoteach

Mae Byron wedi bod yn dysgu dros 20 mlynedd, ac mae nawr yn athro TG yn Ysgol Dyffryn Aman. Mae'n cymryd rhan mewn Rhaglen Dysgu Proffesiynol 18-diwrnod Technocamps ar gyfer athrawon a staff cymorth Cyfrifiadureg.

Cyn y cwrs, roedd Byron yn dysgu Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth (cyfnod allweddol 4 a 5), yn ogystal â TG (cyfnod allweddol 3), ac mae nawr yn canolbwyntio ar Dechnoleg Gwybodaeth, ac wedi derbyn dosbarth cyfnod allweddol 4 yn y pwnc yn ddiweddar, hefyd.

Mae Byron wedi cael diddordeb mewn cyfrifiaduron erioed ac wastad wedi ei ddysgu yng nghyfnod allweddol 3. Yn rhyfedd, ef yw un o’r goreuon mewn TG yn ei ysgol (ond yn colli allan i’r Pennaeth Adran!) ac roedd yr ysgol yn edrych i ehangu ei darpariaeth yng nghyfnod allweddol 4 gan mai dim ond y Pennaeth Adran oedd yn gallu ei addysgu. Yn naturiol, cymerodd Byron yr her…

I Byron, y rhan fwyaf heriol o'r cwrs yw deall cystrawen a negeseuon gwall cod (Python). Ond mae wedi mwynhau mynd i’r afael â Python yn fawr, ac yn enwedig yr agwedd roboteg ar y cwrs. Roedd yn gyffrous i allu rhaglennu gorchmynion a oedd â chanlyniad corfforol, hyd yn oed pan oedd yn seiliedig ar flociau.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd Byron yn dysgu Python yng nghyfnod allweddol 4, ac mae’n ymwybodol iawn o’r ffaith nad oes gan yr ysgol ddarpariaeth ar gyfer Safon Uwch Cyfrifiadureg. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n bwriadu ei wella cyn hir.

“Mae’r cwrs wedi bod yn ardderchog! I ddechrau roeddwn i’n ei chael hi’n anodd ond pan ddechreuais i ddefnyddio fy ngwybodaeth newydd yn yr ystafell ddosbarth, roedd yn hawdd i'w gofio!”