Mae Gyrfaoedd Seiber yn ACE

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, rydym yn darparu gweithdy DPP Gyrfaoedd Seiber cynhwysfawr ar gyfer cynghorwyr gyrfaoedd ac athrawon yng Nghymru. Mae Prifysgol De Cymru wedi ennill gwobr Prifysgol Seiber y Flwyddyn am bedwar mlynedd, yn Ganolfan Academaidd Rhagorol (ACE) mewn Addysg Seiber ac yn gartref i'r Academi Diogelwch Seiber Cenedlaethol. Ariennir y cwrs DPP hwn gan y Ganolfan Diogelwch Seiber Cenedlaethol (NCSC).

Bydd y gweithdy yn cynnwys:
- Beth yw Seiber? – yr 16 arbenigedd seiber
- Seiber yng Nghymru – diwydiant a thirwedd
- Seiber ac Addysg Uwch – llwybrau at swyddi seiber
- Swyddi ac Ennill Arian – cyfleoedd swyddi yng Nghymru
- Y prosiect Ysgolion Cyber First Cymru

Bydd cyfranogwyr yn:
- Teimlo'n hyderus yn eu gwybodaeth o ddiwydiant seiber Cymru
- Deall y rolau gwahanol sy'n dod o dan seiber
- Mwy ymwybodol o gyfleoedd gyrfaoedd seiber yng Nhgymru
- Deall graddau a chyfleoedd seiber addysg uwch yng Nghymru
- Mwy ymwybodol o'r rhaglen Ysgolion Cyber First

Gellir cynnal gweithdai am leiafrif o 5 aelod o staff ar-lein a 10 aelod o staff yn eich gweithle. Bydd pob gweithdy yn rhad ac am ddim a bydd cyfranogwyr yn derbyn adnoddau i'w cadw a'u defnyddio yn y dyfodol.