Gradd-brentisiaeth mewn Meddalwedd Peirianneg am ddim: Cwestiynau Cyffredin

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae ein rhaglen Gradd-brentisiaeth arloesol yn eich galluogi i “ennill a dysgu” – i aros mewn cyflogaeth llawn-amser tra'n ennill gradd BSc (Anrh) sy'n eich galluogi i ddefnyddio eich dysgu academaidd yn eich gweithle. Y rhan orau? Mae’n hollol rhad ac am ddim i chi a’ch cyflogwr.

Dyma bopeth sydd angen ei wybod...

Beth yw Gradd-brentisiaeth?
Mae ein rhaglen Gradd-brentisiaethau yn cyfuno dysgu academaidd traddodiadol mewn amgylchedd Prifysgol â phrosiectau seiliedig ar waith sy'n galluogi myfyrwyr i gymhwyso eu gwybodaeth academaidd newydd i'w rolau yn eu cwmnïau. Bydd myfyrwyr yn graddio o'r cwrs gydag BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol.

Rydym yn gweithio gyda chwmnïau ledled Cymru, gan gynnwys y DVLACGIAdmiral, a Deloitte, yn ogystal ag amryw o fusnesau bach a chanolig i ddarparu ein BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol. Mae hon yn rhaglen Gradd-brentisiaeth a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cefnogi cwmnïau i uwchsgilio aelodau staff newydd neu gyfredol, a sicrhau bod sgiliau'r gweithlu yn gyfredol ac yn berthnasol.

Ariennir y cyrsiau'n llawn, gyda chymorth gan Sefydliad Codio yng Nghymru a Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'r Sefydliad Codio yng Nghymru yn bartneriaeth fawr a arweinir gan Prifysgol Abertawe, sy'n cydweithio â'r Sefydliad Codio Cenedlaethol, sydd wedi'i leoli yn Lloegr. Fe'i sefydlwyd i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol a nodwyd yn y gweithlu ac i feithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol. Mae ein rhaglen Gradd-brentisiaethau, a ragwelwyd yn wreiddiol fel ffordd i helpu i unioni 'prinder sgiliau' ym maes Cyfrifiadureg yng Nghymru, yn hynod o boblogaidd, a gyda chyrsiau byr Cyfrifiadureg ( Cyrsiau Sgiliau), a ddatblygwyd gan y Sefydliad Codio ac yn cael eu darparu ym mhob prifysgol yng Nghymru, rydym yn mynd i'r afael â'r bwlch enfawr mewn sgiliau digidol.

Beth yw'r manteision ar gyfer gweithwyr?
Bydd gennych chi'r cyfle i ennill gradd a datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd, tra'n aros mewn cyflogaeth llawn-amser. Bydd myfyrwyr yn datblygu a gwella eu hyder yn eu sgiliau cyfredol i ennill cymhwyster ac yn derbyn cyfle i symud ymlaen o fewn eu cwmniau.

Beth yw'r manteision ar gyfer cyflogwyr?
Mae'r gradd-brentisiaeth yn sicrhau bod gan weithwyr a chyflogwyr y sgiliau i fod yn fwy cystadleuol, yn rhoi gwybodaeth gyfredol a pherthnasol i staff ac yn cynyddu cymhelliant ac ymrwymiad i'r sefydliad. Mae hefyd wedi profi i roi hwb i hyder staff i gymhwyso eu sgiliau a’u gwybodaeth newydd, a datblygu sgiliau meddal pellach, e.e. sgiliau cyflwyno a chyfathrebu.

Pwy sy'n gymwys?
I fod yn gymwys i wneud prentisiaeth gradd bydd angen i chi fod wedi eich cyflogi mewn swydd berthnasol naill ai fel cyflogai presennol neu weithiwr newydd, am o leiaf 30 awr yr wythnos, a gweithio o leiaf 51% o'r amser yng Nghymru. Bydd angen i'ch cyflogwr gytuno i chi gofrestru ar y cwrs ac i’ch rhyddhau chi o'r gwaith am yr amser gofynnol bob wythnos.

Oes angen cefndir mewn Cyfrifiadureg arnaf i ddechrau'r cwrs?
Yr ateb byr yw na - rydym yn dechrau'r cwrs gyda'r wybodaeth sylfaenol ac nid oes angen unrhyw wybodaeth rhaglennu/cyfrifiadureg flaenorol. O ran gofynion mynediad, fel rhaglen dysgu sy’n seiliedig ar waith, rydym yn gwerthfawrogi profiad ymgeiswyr yn ogystal â chymwysterau ffurfiol fel cymwysterau Safon Uwch. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod profiad perthnasol yn achos myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt gymwysterau Safon Uwch na chanlyniadau academaidd cyfatebol digonol, a'r disgwyliad yw y gwneir cydnabyddiaeth o'r fath yn achos y rhan fwyaf o ymgeiswyr i'r rhaglen. Rydym yn ystyried pob ymgeisydd fesul achos. Os ydych yn ansicr neu'n meddwl nad ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, cysylltwch â ni a gallwn drafod eich sefyllfa.

Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae'r rhaglen yn ymdrin ag amrywiaeth eang o gynnwys, er enghraifft: Rhaglennu a Datblygu Meddalwedd; AI; rhinweddu Data, Algorithmau a Chronfeydd data; Datblygu apiau ar gyfer dyfeisiau symudol a'r we; a Diogelwch Cyfrifiadurol.

Pa mor hir yw'r cwrs?
Mae'r cwrs yn rhedeg am un diwrnod yr wythnos dros gyfnod o dair blynedd (Dydd Mercher, 1-8pm) sy'n gofyn am ½ diwrnod o waith bob wythnos, gyda myfyrwyr yn treulio 80% o'u hamser ar gyfartaledd gyda'u cyflogwyr ac 20% yn gweithio tuag at eu gradd yn y Brifysgol.

Mae Blwyddyn 1 yn cynnwys chwe modiwl 15-credyd sy'n datblygu'r cysyniadau damcaniaethol sylfaenol a'r sgiliau ymarferol sy'n sail i Gyfrifiadureg, ynghyd â modiwl portffolio 30-credyd yn seiliedig ar waith.

Mae Blwyddyn 2 yn cynnwys chwe modiwl 15-credyd sy'n parhau o Blwyddyn 1 wrth ddatblygu cysyniadau damcaniaethol lefel ganolradd bwysig a sgiliau ymarferol sy'n sail i Gyfrifiadureg. Mae yna hefyd fodiwl portffolio seiliedig ar waith 30 credyd arall.

Mae Blwyddyn 3 yn cynnwys chwe modiwl 15-credyd sy'n parhau o Flwyddyn 2. Yn hytrach na modiwlau sy'n seiliedig ar waith, bydd prosiect blwyddyn olaf.

Sut mae'r cwrs yn cael ei ddysgu?
Mae'r cwrs nesaf yn dechrau ym mis Medi 2023 ac mae'r flwyddyn academaidd gyntaf yn rhedeg tan fis Mehefin 2024. Cynhelir y darlithoedd ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe.

Sut ydw i'n cofrestru?
Os ydych yn gyflogwr neu’n weithiwr gyda diddordeb yn y cyfle hwn, cysylltwch â Swyddog Cyswllt Busnes Technocamps, Dr Maria Moller am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol. Rydym yn derbyn ymgeiswyr newydd tan fis Medi.