Mae’r gweithdy hwn yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o beth yw Dysgu Peiriant. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth am ddata priodol ac anaddas wrth hyfforddi peiriant. Bydd myfyrwyr yn gweithredu eu gêm Scratch Dysgu Peiriant eu hunain.
Technoleg, Moeseg a'r Dyfodol
Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar esblygiad technoleg, materion moesegol sy'n ymwneud â thechnoleg a datblygiadau yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn adeiladu cylchedau electronig gan efelychu goleuadau clyfar ac yn defnyddio LEGO Mindstorms i ddynwared cerbydau ymreolaethol wrth ystyried pryderon moesegol.
C3: Cryptograffeg
Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno myfyrwyr i dechnegau cryptograffig a ddefnyddiwyd yn hanes yr hen fyd ac yn ystod yr oes fodern. Trwy ddeall a gweithredu'r technegau hyn, bydd myfyrwyr yn cryfhau eu sgiliau meddwl rhesymegol a sgiliau mathemateg.
C3: Modeli Moleciwlau Scratch
Bydd y gweithdy hwn yn datblygu gwybodaeth disgyblion am atomau a moleciwlau a’u hymddygiad ynghyd â defnyddio Scratch i fodelu gwahanol gyflwr mater ac adweithiau cemegol syml.
C3: Mathemateg Python
This workshop develops students’ knowledge of programming, focusing on Python. With the help of Turtle library, students will strengthen their understanding of geometry and learn how to program various shapes using the Python. – –
C3: Greenfoot Ecosystems
Mae’r gweithdy hwn yn datblygu gwybodaeth myfyrwyr am ecosystemau, yn benodol, y gadwyn fwyd. Yna bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth am amgylchedd Greenfoot yn Java trwy gynhyrchu gêm sy'n efelychiad o ecosystem.
C3: Meddwl Cyfrifiannol
Yn y gweithdy hwn, bydd disgyblion yn edrych ar y cysyniad o Feddwl Cyfrifiadol a'i gymhwyso i ddatrys problemau ac efelychu dilyniannau'r byd go iawn yn Scratch.